Croeso i Neuadd Gyhoeddus Llanrhaeadr YM

Mae Neuadd Gyhoeddus Llan yng nghanol pentref Llanrhaeadr Ym Mochnant yn Nyffryn Tanat hardd, Powys, ac ar hyn o bryd mae'n destun i newid mawr!

Bellach mae'r hen Neuadd (a adeiladwyd ym 1927) wedi cael ei dymchwel ac mae gwaith wedi dechrau ar adeiladu'r un newydd - rhagwelir iddi fod yn lle cyfarfod aml-bwrpas, o'r radd flaenaf.

Bydd ein Neuadd newydd yn gynaliadwy, wedi'i hadeiladu o ddeunyddiau lleol, yn defnyddio goleuni a gwresogi effeithlon o ran ynni ac yn ailgylchu dŵr glaw, ac yn cynnwys cyfleusterau priodol ar gyfer pobl ag anableddau. Bydd gwasanaethau a gweithgareddau'n cael eu darparu ar gyfer pobl o bob oedran, er mwyn hybu cynhwysiant cymunedol, dysgu gydol oes ac integreiddio. Yn fyr, bydd yna gyfleoedd i bawb!

Mae'r Neuadd yn berchen i gymuned Llanrhaeadr ym Mochnant, ac mae'n Elusen, sy'n Gofrestredig yng Nghymru a Lloegr - Rhif 524061.